AMDANOM NI
Mae gan Gyngor Tref Pontypridd 23 o gynghorwyr sy’n gyfrifol am 10 o wardiau.
Cyngor Tref yw Cyngor Tref Pontypridd a ddaeth i fodolaeth ar Ebrill 1af 1974 fel canlyniad i'r Ad-drefnu Llywodraeth Leol.
Mae gan Gyngor Tref Pontypridd 23 o gynghorwyr sy’n gyfrifol am 11 o wardiau. Mae dros 30,000 o breswylwyr o fewn ardal y Cyngor Tref ac felly Cyngor Tref Pontypridd yw un o’r Cynghorau Cymuned mwyaf yng Nghymru.
Mae’r Cyngor Tref yn gyfrifol am ystod eang o wasanaethau yn cynnwys:
- Digwyddiadau
- Swydd Maer y Dref
- Llochesi bysiau
- Rhandiroedd
- Seddau cyhoeddus
- Wrinalau
- Mannau agored
- Cynllun Grantiau Bach – arian grant
- Amgueddfa Pontypridd
- Canolfan Gymunedol Taff Meadow
- Comin Coedpenmaen a Chofeb Rhyfel
- Cofebion Rhyfel yn Rhydyfelin a Chilfynydd.
Sefydlodd y Cyngor Tref, mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf y ‘rhediad yn y parc’ sy’n digwydd am 9.00 y bore bob dydd Sadwrn ym Mharc Coffa Rhyfel Ynysangharad.
Mae’r Cyngor Tref yn trefnu digwyddiadau blynyddol yn cynnwys:
- Dathliadau Dydd Gŵyl Ddewi
- Diwrnod Hen Drafnidiaeth
- Gwasanaeth Sul y Cofio / parêd mewn partneriaeth â CBS Rhondda Cynon Taf
- Troi’r Goleuadau’r Nadolig Ymlaen yn ogystal â gosod y goleuadau Nadolig yng Nghanol Tref Pontypridd
- Cyngerdd Elusen y Maer
- Canu Carolau yng Nghanol Tref Pontypridd
- Cystadleuaeth Cerdyn Nadolig
- Mae Cyngor y Dref yn cael ei arwain gan Faer y Dref sy’n cael ei ethol yn flynyddol ym mis Mai. Maer y Dref yw Pennaeth Dinesig Pontypridd.
Oherwydd hynawsedd y Cyngor Tref ynghylch preswylwyr yr ardal mae’n gallu adlewyrchu a mynegi’r farn gyhoeddus i’r Awdurdod Unedol mwy (gwelwch 'Gwasanaethau' isod) ac mae ganddo’r hawl i fynegi barn ar faterion cynllunio / trwyddedu.
Mae Cyngor y Dref yn croesawu barn y trigolion parthed ei wasanaethau a’i gyfrifoldebau.
Cyngor Bwrdeistrefol Rhondda Cynon Taf
Cyfeiriad: Sardis House, Sardis Road
Ffon: 01443 494700
Gwefan: www.rctcbc.gov.uk
Mae gwasanaethau RhCT yn cynnwys:
- Trwydded Teithio ar Fws
- Biniau
- Treth Cyngor
- Warden Cŵn / Cŵn yn baeddu
- Addysg
- Etholiadau
- Tipio Anghyfreithlon
- Priffyrdd
- Trwyddedu
- Cynllunio
- Ailgylchu
- Casglu sbwriel
- Ysgolion
- Gwasanaethau Cymdeithasol