Ffôn: 07739731463Emaileleri.griffiths@pontypriddtowncouncil.gov.uk

Cynghorydd Eleri Griffiths

Cynrychioli Ward y Graig


Bio:

Rwyf wedi treulio'r rhan fwyaf o fy mywyd yn byw ym Mhontypridd heblaw am gyfnod byr i ffwrdd ym Mhrifysgol Aberystwyth ac fel gwirfoddolwr gyda phlant yn Sri Lanka. Mae gen i dair merch a nawr yn byw gyda dwy ohonyn nhw, a fy mhartner, cathod a chi.


Am y 22 mlynedd diwethaf rwyf wedi bod yn gyflogedig yn y trydydd sector gyda sefydliadau sy'n gweithio i wella bywydau plant a phobl ifanc. Maent yn cynnwys Menter Iaith RhCT, Plant yng Nghymru a Mudiad Meithrin. Rwy’n angerddol am hawliau plant a hawliau dynol, a dyna pam y dechreuais ymwneud â gwleidyddiaeth. Rwy’n Ymddiriedolwr ar gyfer Cymdeithas Lles Henoed Ward Cwm Rhondda (Neuadd Hopkinstown) a Chylch Meithrin Evan James.


Mae fy niddordebau yn cynnwys gwnïo, crefft gleiniau, darllen, cerdded bryniau ac arfordiroedd, gwersylla a darganfod safleoedd cynhanesyddol.



Plaid : Plaid Cymru


Pwyllgorau : Polisi a Chyllid a Staffio


Share by: