AMGUEDDFA

Mae Amgueddfa Pontypridd yn adrodd hanes ardal a drawsnewidiwyd, o gymuned dawel yn y Cymoedd i dref ddiwydiannol lewyrchus yng nghanol maes glo De Cymru.
Mae Amgueddfa Pontypridd wedi’i lleoli yng Nghapel y Tabernacl ar ochr ogleddol y dref. Adeiladwyd y capel ym 1861, ac yno mae’r organ bib o hyd a thu mewn hynod addurnedig sy’n ddiweddar wedi’i adnewyddu. Prynwyd y lle gan Gyngor Tref Pontypridd yn 1983 ac ail agorwyd y safle ym 1986 fel amgueddfa’r dref.

Mae’r amgueddfa’n dynodi hanes diwydiannol, cymdeithasol a diwylliannol Pontypridd gan bwysleisio hanes nodedig y dref. Mae peintiadau a gweithiau celf eraill yn dathlu pont William Edwards adeiladwyd ym 1756 gerllaw'r amgueddfa ac a ddaeth yn enwog oherwydd iddi ragori ar rychwant pont Rialto yn Fenis. Mae gwrthrychau personol oedd yn perthyn i Evan a James James, gyfansoddodd anthem genedlaethol Cymru ym 1856 yn ein hatgoffa am y digwyddiad pwysig hwn. Rydym yn amlygu gorchestion cerddorion, cantorion ac enwogion byd y campau o Bontypridd a hefyd y crefftau poblogaidd yn cynnwys creu sampleri’r bedwaredd ganrif ar bymtheg i rasio colomennod yr ugeinfed ganrif. Rydym ar hyn o bryd yn casglu tystiolaeth i ddarlunio gwreiddiau cymysg pobl y dref, y mwyafrif yn Gymry, Saeson a Gwyddelod ond hefyd yr Eidalwyr, yr Iddewon a’r Pwyliaid a rhai gyrhaeddodd mewn cyfnodau mwy diweddar.

Yn ogystal â’n harddangosfa barhaol sy’n cael ei addasu wrth i roddion ddod i law a gwrthrychau’n cael eu prynu, mae gyda ni ofod i oriel ar gyfer arddangosfeydd dros dro. Mae’r rhain yn cynnwys arddangosfeydd hanesyddol sy’n deillio o’n casgliadau ni ein hunain neu rai gan haneswyr ac archeolegwyr lleol, arddangosfeydd gan gymdeithasau celf lleol, arddangosfeydd ffotograffau gan ffotograffwyr lleol a chlybiau o bob cwr o Gymru, ac arddangosfeydd gwyddoniaeth a thechnoleg wedi’u cynllunio i gwrdd â gofynion ysgolion cynradd.       

Beth sy'n digwydd yn yr Amgueddfa?

Hofran dros y delweddau isod i weld beth sy'n digwydd yn Amgueddfa Pontypridd ...
Share by: