Cynllun Grantiau Bach

Gwybodaeth am y Cynllun Grantiau Bach a sut i wneud cais am grant bach

Nodiadau Canllawiau Grant Bach

Mae’r Cynllun Grantiau Bach yn cael ei gynnig gan Gyngor Tref Pontypridd drwy Adran 137 Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae Adran 137 yn datgan bod rhaid i unrhyw gymorth ariannol a roddir, ddod â budd uniongyrchol i ardal llywodraeth leol neu ran ohoni neu i’r holl breswylwyr neu i rai ohonynt.  
  • Ar gyfer beth y gellir defnyddio Grant Bach?

    Gellir defnyddio grant bach, hyd at £200, ar gyfer gwariant bach unigol neu grantiau refeniw anghylchol, er enghraifft, offer a deunyddiau newydd, gwaith strwythurol neu drosi, hyfforddiant staff / gwirfoddolwyr, prosiectau peilot, areithwyr gwadd a threuliau eraill.   


    Nid yw derbyn grant eleni yn gwarantu y bydd ceisiadau yn y dyfodol yn llwyddiannus.  

  • Pwy sy’n gymwys i dderbyn Grant Bach?

    Mae’n rhaid i grant ddod â lles i drigolion sy’n byw o fewn ffiniau ardal Cyngor Tref Pontypridd. Mae sefydliadau y rhoddwyd cymorth iddynt yn y gorffennol wedi cynnwys grwpiau ieuenctid, clybiau chwaraeon, grwpiau celfyddydau, cyrff elusennol a chymdeithasau amrywiol eraill a threfnyddion digwyddiadau.


    Mae grantiau a roddir gan y Cyngor yn gallu cefnogi cyllid cyffredinol sefydliadau a rhoi cefnogaeth i brosiectau arbennig.


    Er enghraifft mae cyllid ar gael i:  

    • sefydliadau dielw sy’n defnyddio eu holl gyllid gwarged ddim ond ar gyfer eu hamcanion ac nid i unrhyw aelod elwa mewn unrhyw ffordd
    • cymdeithasau anghorfforedig 
    • dim ond ar gyfer cefnogi mentrau sy’n rhoi cymorth ar gyfer amcanion elusennol neu lesiannol neu’r rhai sy’n gwneud gwaith da ar gyfer eraill yn y gymuned. Gall hyn gynnwys lleihau tlodi neu salwch, cwrdd â gofynion yr ifanc neu’r henoed, hybu addysg  neu’n dod a budd i’r gymuned
    • cynorthwyo sefydliadau cymunedol  
  • Pwy sy’n anghymwys i dderbyn Grant Bach?

    Ni fydd grantiau yn cael eu rhoi i:  


    • gwasanaethau statudol   
    • sefydliadau sydd â chronfeydd sylweddol wrth gefn nad ydynt wedi’u dynodi at ddiben penodol        
    • sefydliadau sydd wedi derbyn grant o’r Cynllun hwn y flwyddyn cyn hynny, ond heb anfon adroddiad ar sut y gwariwyd yr arian
    • sefydliadau nad ydynt yn gweithredu, neu ddim yn amlwg yn dod â budd i rai neu holl drigolion ardal y Cyngor      
    • digwyddiadau cymdeithasol unwaith ac am byth a threuliau teithio   
    • unigolion, sefydliadau preifat neu ar gyfer elw   
    • tir / eiddo ‘’sydd ym mherchenogaeth/ ei rentu / ei drwyddedu’’ gan y Cyngor   
    • cynlluniau sy’n gymwys i dderbyn cymorth ariannol o ffynonellau statudol eraill.
  • Wrth ystyried eich cais:

    Byddwn yn edrych ar: 

    • pa mor dda fydd y grant yn cwrdd ag anghenion y gymuned, a sut un union y bydd pobl sy’n byw yn ardal Cyngor Tref Pontypridd yn elwa. (Nodwch os yn bosib pa mor eang y bydd y daioni yn gwneud lles yn y gymuned).
    • pa mor effeithlon y bydd eich grŵp yn defnyddio’r grant
    • os yw’r costau’n realistig a phriodol
    • lefel o’r cyfraniadau a godir yn lleol   
    • fyddai’r ymgeisydd, o fewn rheswm wedi gallu derbyn cyllid digonol o ffynhonnell fwy pwrpasol gan gynnwys grant neu gymorth ariannol sydd ar gael o dan ddeddfwriaethau eraill     
    • sut mae’r grŵp yn cael ei reoli
  • Sut y gellir cyflwyno cais i’r Cynllun Grantiau Bach?

    Gellir cyflwyno cais i’r Cynllun Grantiau Bach drwy lenwi’r ffurflen berthnasol sydd ar gael o Gyngor Tref Pontypridd o’r cyfeiriad isod. Gellir llenwi’r ffurflenni yn Gymraeg neu yn Saesneg.   


    Dyrennir grantiau gwerth hyd at £200. Mae ymgeiswyr yn cael eu hannog i ofyn am symiau o fewn yr ystod hon. Ni fydd Cyngor Tref Pontypridd yn edrych ar geisiadau i godi arian ychwanegol o gyfansymiau gweddol fychan - felly gofynnwch am y swm yr ydych wirioneddol ei angen.  


    Mae ffurflenni cais am grant bach neu gymorth i lenwi’r cais ar gael o:  

    Cyngor Tref Pontypridd, 133 Berw Road, Pontypridd, CF37 2AA.  

    Rhif ffôn:  01443 490740 

    E-bost: info@pontypriddtowncouncil.gov.uk


    Bydd Cyngor Tref Pontypridd yn defnyddio’r data a dderbyniwyd gan ymgeiswyr ddim ond mewn perthynas â’r cynllun hwn ac fe’i cedwir am gyfnod o un flwyddyn yn unig ar gyfer diben sy’n ymwneud â’r cynllun hwn.   

Share by: