KERRY STEWART
Artist Statement
I work with teenagers and young people experiencing homelessness through the medium of art and trauma informed practice using ‘Flow’ and a person-centered approach, because I feel passionate that our youths are our future. I want to help them find healthy coping mechanisms and strategies to escape from their trauma for a while. Using art and Flow can help to achieve this, meaning that they can have better mental health.
I want people who experience my work to feel confident, empowered and heard. I want them to feel a sense of accomplishment and happiness. I want them to have engaged and have a voice.
I like to paint, play with clay and build things and watch them grow, using Detritus, things people have thrown away and found objects.
Over the last three years I have stepped out of my comfort zone to try new things and learn new skills. I am always up for a challenge. From my installation about stories in a teacup to our Arts in Health project making hands to hold for people living with a dementia and now mask making to depict Dr. William Prices incredible stories throughout his lifetime. I am all about creativity, community and wellbeing.
Rwy'n gweithio gyda phlant yn eu harddegau a phobl ifanc sydd â phrofiad o ddigartrefedd drwy gyfrwng celf ac ymarfer sy'n seiliedig ar drawma gan ddefnyddio ‘Llif’ a dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, oherwydd rwy'n credu'n gryf mai ein pobl ifanc yw ein dyfodol. Rwyf am eu helpu i ddod o hyd i ddulliau a strategaethau ymdopi iach i ddianc rhag eu trawma am gyfnod. Gall defnyddio celf a Llif helpu i gyflawni hyn, sy'n golygu bod modd gwella eu hiechyd meddwl.
Rwyf am i bobl sy'n cael profiad o fy ngwaith deimlo'n hyderus, wedi'u grymuso a'u bod yn cael eu clywed. Rwyf am iddyn nhw deimlo ymdeimlad o gyflawniad a hapusrwydd. Rwyf eisiau iddyn nhw deimlo wedi ymgysylltu a bod ganddyn nhw lais.
Rwy’n hoffi peintio, chwarae gyda chlai ac adeiladu pethau a'u gwylio nhw'n tyfu, gan ddefnyddio malurion, pethau mae pobl wedi'u taflu ac eitemau y byddaf yn dod o hyd iddyn nhw.
Dros y tair blynedd diwethaf rydw i wedi mentro o’r hyn sy'n gyfforddus i mi i roi cynnig ar bethau newydd a dysgu sgiliau newydd. Rwyf bob amser yn barod am her. O'm gosodiad am straeon mewn cwpan de i'n prosiect Celfyddydau mewn Iechyd yn gwneud dwylo i'w dal gan bobl sy'n byw gyda dementia ac rydyn ni nawr yn gwneud mygydau i bortreadu straeon anhygoel Dr. William Price drwy gydol ei oes. Rwy'n credu'n gryf mewn creadigrwydd, cymuned a lles.







