Rydyn ni’n cyflwyno pART Llwybr Celf Ponty 2026 i chi, ein Llwybr Celf blynyddol sy'n cael ei gynnal yng nghanol tref Pontypridd, gan arddangos gwaith celf y myfyrwyr sy'n graddio o’r cwrs BA (Anrh) mewn Celfyddydau Creadigol a Therapiwtig ym Mhrifysgol De Cymru. Fel Ymarferwyr Celfyddydau Cymunedol, Cyfranogol a Chymdeithasol y dyfodol, mae'r myfyrwyr wedi creu gwaith celf sydd wedi ennyn diddordeb neu wedi cael ei lywio gan gymuned Pontypridd, gyda rhywfaint o waith celf yn eich gwahodd i ryngweithio â'r gwaith sy'n cael ei arddangos. Nid yn unig y mae'r arddangosfa'n dangos eu gwaith fel artistiaid, ond mae hefyd yn dangos eu hangerdd dros gefnogi lles ein cymuned, eu gallu i ffurfio cysylltiadau ystyrlon, yn ogystal â'u cydnerthedd nhw a'r gymuned yn ystod cyfnodau heriol.
I weld y digwyddiadau, y gweithdai a’r pethau penodol sy'n digwydd yn ystod y Llwybr Celf, ewch i'n tudalen Facebook - dolen uchod.
Roedd y Myfyrwyr, tîm y Celfyddydau Creadigol a Therapiwtig, a Phrifysgol De Cymru eisiau defnyddio'r cyfle hwn i anrhydeddu a dathlu'r perthnasoedd gwych sydd wedi’u meithrin â’r lleoliadau, y busnesau, y sefydliadau a’r cymunedau ledled ein tref sydd wedi ysbrydoli a chefnogi'r gwaith celf a'r Llwybr Celf. Rydym yn eich gwahodd i ymweld â lleoliadau'r gwaith celf, ymgolli yn y llwybr, a mwynhau canol ein tref hardd a'r trigolion sy'n byw yma.
Gyda diolch i'r holl leoliadau a gymerodd ran yn y Llwybr Celf, ac yn y gweithdai cyn digwyddiadau'r penwythnos hwn. Gyda diolch arbennig i Gyngor Tref Pontypridd, Eich Ardal Gwella Busnes Pontypridd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a Website Sorted am eu cefnogaeth.
Gobeithio y gwnewch fwynhau pART Llwybr Celf Ponty 2026, ac ymunwch â ni i ddymuno'n dda i’r myfyrwyr sy'n graddio yn 2026 wrth i ni lansio eu gyrfaoedd newydd mewn Celfyddydau a Llesiant.
