Anifeiliaid Y Mab

Mae anifeiliaid wedi chwarae rôl bwysig mewn adrodd storïau erioed, ac mae hynny’n arbennig o wir am y storïau yn Y Mab. Ceir anifeiliaid ym mhobman. Maen nhw’n cludo negeseuon a phobl, fe’u defnyddir fel pyrth i’r Annwn (‘Otherworld’), neu maen nhw’n elynion mawr y mae angen i’n harwyr eu gorchfygu. Defnyddir rhai anifeiliaid hefyd i ddangos nodweddion sy’n ymwneud â rhai pobl neu sefyllfaoedd. Ar yr adeg yr ysgrifennwyd y Mabinogi, roedd gan bobl barch mawr at anifeiliaid a’r byd naturiol, fel y cewch ddarganfod yn y storïau a gasglwyd yma ar Gomin Pontypridd.

Dilynwch Lwybr y Mab ar Gomin Pontypridd i ganfod pedair carreg stori:

Carreg Stori 1 
Peredur, y Bwystfil a Sarff y Crug Galarus sy’n ail-ddweud stori Peredur fab Efrawg 

Carreg Stori 2 
Geraint, Enid a’r Marchog Mawr sy’n ail-ddweud stori Geraint ac Enid                

Carreg Stori 3 
Yr Wyth Anhygoel sy’n ail-ddweud stori Culhwch ac Olwen

Carreg Stori 4 
Breuddwyd Ryfedd ac Ysblennydd Rhonabwy Methu- cysgu sy’n ail-ddweud Breuddwyd Rhonabwy
Yn aml, defnyddir ceirw i ddangos bod y cymeriadau yn y stori ar fin cael antur anhygoel. Yn Peredur, y Bwystfil a Sarff y Crug Galarus a Geraint, Enid a’r Marchog Mawr mae’r storïau’n cychwyn gyda helfa am garw. Defnyddir y ddwy helfa i ddangos pa mor ddiofn a beiddgar y mae Peredur a Geraint. Nid yw’r helfa’n ganolbwynt ar gyfer y naill stori na’r llall, ond fe’i defnyddir fel sbringfwrdd ar gyfer antur.

Ar ddechrau eu tasg gyntaf, mae’r Wyth Anhygoel yn ceisio cymorth gan anifeiliaid i ganfod yr heliwr chwedlonol Mabon ap Modron. Gwyddant fod anifeiliaid yn ddoeth ac yn meddu ar wybodaeth a dealltwriaeth ddofn o’r byd, a gofynnant am gyngor gan aderyn du, carw, tylluan, eryr, ac yn olaf, eog anferth.              

Bydd adar hefyd yn ymddangos yn Y Mab. Weithiau, bydd cymeriadau’n trawsffurfio’n adar, neu maen nhw’n siarad ag adar, neu’n defnyddio adar i gludo negeseuon.Yn stori Breuddwyd Ryfedd ac Ysblennydd Rhonabwy Methu- cysgu mae Rhonabwy’n defnyddio cigfrain i symboleiddio barusrwydd a hunanoldeb gwael a phwdr. Mae’n defnyddio cri’r gigfran hefyd fel modd o roi arwydd i ddynion y tywysog ddod i arestio’r lladron.                   
Darluniwyd gan Max Low
 Dylunio Gwefan gan Website Sorted & Plaingraffic
Share by: