Mae’r Mab wedi’i drwytho mewn hudoliaeth. Ceir sôn am gymeriadau sy’n trawsffurfio ynghyd â dewiniaid, gwrachod a chewri. Daw pobl o farw i fyw trwy ddefnyddio pair hud, mae cymeriadau’n trawsffurfio’n anifeiliaid neu’n gallu siarad â hwy i elwa ar eu doethineb, bydd pobl yn diflannu i’r Annwn (‘Otherworld’) neu’n cerdded o’r byd hwnnw i’n byd ni. Mae popeth yn bosib a gall unrhyw beth ddigwydd.

Dilynwch Lwybr y Mab ar Gae Ffordd Berw i ganfod tair carreg stori:

Carreg Stori 1
Dilyn y Freuddwyd sy’n ail-ddweud stori Breuddwyd Macsen.
Yn Dilyn y Freuddwyd, mae Ymerawdwr Rhufain, Macsen Wledig, yn gorffwys ar ôl diwrnod o hela, ac yn breuddwydio am groesi’r môr i ganfod ynys â chastell urddasol. Yno, mae’n gweld y forwyn decaf erioed ac yn syrthio dros ei ben a’i glustiau mewn cariad â hi. Pan fydd Macsen yn dihuno, yn lle bwrw ymlaen â’i ddiwrnod, mae’n dilyn ei freuddwyd i wlad bellennig. Sef Cymru, wrth gwrs.
Carreg Stori 2 
Y Grasusau sy’n ail-ddweud stori Lludd a Llefelys.

Stori am dair gormes ofnadwy yw Y Grasusau. Yn yr un gyntaf, ceir pla o greaduriaid dieithr, tebyg i ysbrydion - clustfeinwyr sibrydol, sydd â’r gallu i glywed popeth a ddywed gan bawb. Yr ail oedd sgrechian byddarol draig goch a draig wen yn ymladd â’i gilydd. Achosir y drydedd gan ddewin sy’n dwyn bwyd y bobl wrth iddynt gysgu.

Carreg Stori 3
Luned a’r Fodrwy Hud sy’n ail-ddweud stori Iarlles y Ffynnon.   
  
Yn Luned a’r Fodrwy Hud, gwelir un o farchogion y Brenin Arthur yn brwydro yn erbyn creaduriaid hudol, ac yn cael cymorth merch ddirgel a chanddi fodrwy a’i gwna’n anweledig.

Mae’r cymeriadau yn y Mab yn byw mewn tirwedd lle bo hudoliaeth yn digwydd mor aml, eu bod, yn ddigwestiwn, yn llwyr gredu yn yr hudoliaeth honno a’i phŵer. Gallwch chithau hefyd ddod yn rhan o’r dirwedd fytholegol honno trwy ddilyn Llwybr y Mab.

Darluniwyd gan Max Low
 Dylunio Gwefan gan Website Sorted & Plaingraffic
Share by: