Yn storïau’r oes o’r blaen, rhan menywod yn aml oedd edrych yn dlws, dweud fawr ddim, a ffarwelio â dynion yn gariadus fel yr oedden nhw’n cychwyn ar anturiau mawr. Weithiau, mae’n bosib meddwl nad oedd gan y menywod hyn unrhyw lais o gwbl, gan eu bod yn dweud cyn lleied. Ond nid felly yn Y Mab! Mae menywod Y Mab yn ffyrnig a beiddgar, yn alluog a ffraeth, yn glyfar a gwydn. Maen nhw’n gwneud penderfyniadau ac yn gwneud camgymeriadau. Maen nhw’n bobl bwysig iawn yn eu storïau, ac rydym yn falch o o glwyed eu lleisiau o’r diwedd!

Dilynwch Lwybr Y Mab ym Mharc Ynysangharad i ganfod pedair carreg stori:
Carreg Stori 1
Rhiannon, Pwyll a’r Grafanc Hyll sy’n ail-ddweud Cainc Gyntaf y Mabinogi

Yn Rhiannon, Pwyll a’r Grafanc Hyll, mae Rhiannon, menyw bwerus, swynol o’r Annwn (‘Otherworld’), yn ymuno â’r byd hwn gan orfod wynebu twyll a chosb am drosedd nad oedd wedi’i chyflawni. A hithau’n gorfod cario pobl ar ei chefn fel pe bai’n geffyl, mae’n derbyn ei ffawd gyda chryfder mewnol, urddas a maddeuant.
Carreg Stori 2 
Branwen a’r Pair Dadeni sy’n ail-ddweud Ail Gainc y Mabinogi  
   
Mae adar yn ymddangos yn Branwen a’r Pair Dadeni. Dywedodd mam Branwen wrthi i agor ei chalon a gwrando ar ddoethineb yr adar ar adegau o ofid. Mae’r drudwy’n siarad â Branwen ac mae hi’n cytuno y bydd cariad yn gorchfygu popeth.
MCarreg Stori 3
Byw’n Hapus am Byth sy’n ail-ddweud Trydedd Gainc y Mabinogi 
 
Mae gan Cigfa yn y stori Hapus am Byth dân yn ei bol, mae hi’n marchogaeth ei cheffyl fel rhyfelwr ac yn defnyddio’i hymennydd i achub y dydd. Mae Cigfa yn dweud wrthym fel y mae bywyd go iawn yn gymaint mwy diddorol na’ch stori byw’n hapus am byth arferol.
Carreg Stori 4 
Hud ac Erwain sy’n ail-ddweud Pedwaredd Gainc y Mabinogi                                          
Mae Blodeuwedd, yn y stori Hud ac Erwain yn fenyw a gwnaed yn gyfan gwbl o flodau, oherwydd bod dyn eisiau gwraig. A hithau’n anhapus â’r trefniant, mae hi’n cynllwynio i ddial. Fel cosb, caiff Blodeuwedd ei thrawsffurfio’n dylluan fel na chaiff fwynhau’r golau fyth eto.
                                                    
Mae menywod Y Mab yn gryf a gwyllt, yn hudolus a phwerus, yn ffaeledig a chanddyn nhw ysbryd rhydd. Efallai bod ambell un ohonyn nhw’n debyg i chi?

Darluniwyd gan Max Low
 Dylunio Gwefan gan Website Sorted & Plaingraffic
Share by: